Mr Nick Ramsey AC
Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
Dyddiad: 18 Gorffennaf 2017
Annwyl Nick
Ymateb i Bwyntiau Gweithredu a gofnodwyd yng nghyfarfod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a gynhaliwyd ar 3 Gorffennaf ynghylch adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar Drosolwg Llywodraeth Cymru o gyllid a darpariaeth colegau addysg bellach.
Roedd nifer o bwyntiau gweithredu a gofnodwyd yn y cyfarfod diweddar o'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ac mae'n bleser gennyf yn awr allu rhannu'r ymatebion gyda chi yn Atodiad A i'r llythyr hwn.
Yn Gywir
Huw Morris
Cyfarwyddwr y Grŵp Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes
cc Blwch Post y Cabinet a'r Cyfarfod Llawn
Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
Blwch Post CGU Llywodraeth Cymru
Atodiad A
Cam Gweithredu 1
Cyfran y gyllideb sy'n cael ei wario ar y Gymraeg a'r Saesneg yn y sector addysg bellach
Oherwydd y ffordd yr ydym yn ariannu rhaglenni dysgu nid yw'n bosibl nodi pa gyfran o'r gyllideb sy'n cael ei gwario ar ddarpariaeth Gymraeg a pha gyfran sy'n cael ei gwario ar ddarpariaeth Saesneg oherwydd mewn llawer o achosion, mae'r rhaglen yn cynnwys rhywfaint o addysgu drwy gyfrwng y Cymraeg a'r Saesneg.
Mae gwybodaeth, sydd ar gael ar StatsCymru, yn dangos bod cyfanswm o 7.8% o'r holl weithgareddau yn cynnwys Dysgu Cyfrwng y Gymraeg a Dwyieithog.
Er mwyn cefnogi'r ddarpariaeth Gymraeg rhoddir ymgodiad o £3.9 miliwn i golegau i gefnogi ac annog datblygu'r ddarpariaeth Gymraeg bresennol a darpariaeth newydd
Cam Gweithredu 2
Esboniad manwl o'r effaith ar gyllid Ysgolion yr 21ain ganrif o fis Mawrth 2019 ymlaen yn sgil y broses o adael yr UE;
Ariennir y Rhaglen Gyfalaf i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif gan Lywodraeth Cymru, ac nid yw'n derbyn unrhyw gyllid ychwanegol drwy'r cronfeydd ERDF / ESF.
Ar hyn o bryd, mae effaith Brexit ar economi'r DU ac unrhyw effeithiau canlyniadol ar gyllidebau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol yn ansicr. Fodd bynnag, yn ystod y refferendwm rhoddwyd sicrwydd i bleidleiswyr gan y rhai a oedd yn ymgyrchu dros adael yr Undeb Ewropeaidd na fyddai Cymru geiniog yn waeth ei byd o ganlyniad i hynny. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu dwyn Llywodraeth y DU i gyfrif am hynny. Rydym yn dibynnu ar y Trysorlys i gynnal ein gwariant ar y lefelau presennol.
Cam Gweithredu 3
Anfon y dyraniad o ran cyllid cyfalaf o'r gyllideb ddrafft, os yw'n gallu.
Mae'r cyllidebau a gyhoeddwyd ar gyfer 2017/18 yn dangos bod cyllideb sylfaenol fwy yn cael ei chadw ar gyfer y Rhaglen yn ystod y cyfnod hyd at 2020/21. Mae'r gyllideb ar hyn o bryd yn £100.813 miliwn y flwyddyn.
Cam Gweithredu 5
Manylion am sut y mae dysgwyr o'r gymuned Teithwyr yn cael eu cefnogi yn y sector addysg bellach.
Yn anffodus, er ein bod yn ymwybodol bod colegau yn cefnogi dysgwyr o'r Gymuned Teithwyr, nid ydym yn casglu gwybodaeth sy'n nodi'r dysgwyr hyn yn benodol. Byddwn yn gweithio gyda ColegauCymru i nodi'r dulliau cymorth a ddefnyddir ym mhob sefydliad er mwyn sicrhau ein bod yn cefnogi'r Gymuned Teithwyr yn y ffordd orau bosibl.